Cofnodion Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Hil a Chydraddoldeb

30 Mawrth 2023

Yr Argyfwng Costau Byw

 

Yn bresennol:

John Griffiths AS (y Senedd), Altaf Hussain AS (y Senedd), Jane Hutt AS (Llywodraeth Cymru), Ryland Doyle (Cymorth y Senedd), Mark Major (Cymorth y Senedd), Niamh Salkeld (Cymorth y Senedd), Zephyr Li (Hong Kongers Cymru), Trudy Aspinwall (Teithio Ymlaen), yr Athro Robert Moore (Prifysgol Lerpwl), Selima Bahadur (Eyst), Helal Uddin (Eyst), Grainne Connolly (Eyst), Dr Susan Davis (Prifysgol Met Caerdydd), Tamasree Mukhopadhyay (KIRAN Cymru), Mymuna Soleman (Mwslimiaid ASKA Cymru), Lorna Wiggins (Bawso), Dr Kofi Obuobie, Christina Tanti (Cydraddoldeb Hiliol yn Gyntaf), Twahida Akbar (Eyst), Maria Constanza Mesa (Womens Connect First), Emmanuel Ogbonna (Prifysgol Caerdydd/RCC)

Ymddiheuriadau:

Dr Sibani Roy, Aled Edwards (Cytûn), Jessica Laimann (Wen Cymru), Chantelle Haughton (Met Caerdydd), Andrea Cleaver (Cyngor Ffoaduriaid Cymru)

Cyflwyniadau a Chroeso

Cafodd pawb eu croesawu i’r Grwp Trawsbleidiol ar Hil a Chydraddoldeb gan John Griffiths AS. 

Cyflwyno canlyniadau Arolwg Costau Byw EYST Cymru

Cafwyd cyflwyniad gan Selima Bahadur a Grainne Connolly o EYST Cymru yn rhoi cipolwg ar ganlyniadau eu harolwg Costau Byw, sydd wedi'u casglu o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Gofynnwyd 6 chwestiwn (a gyflwynwyd yng nghyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol gyda sylwadau):

  1. Ydych chi'n poeni am y cynnydd presennol mewn biliau ynni a chostau byw?
  2. Ydych chi wedi gorfod lleihau eich gwariant ar filiau ynni a chostau byw eraill?
  3. Ydych chi wedi cael help ariannol gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i helpu gyda'r costau hyn?
  4. Pa mor wybodus ydych chi'n teimlo am help a allai fod ar gael i chi?
  5. Oes unrhyw beth yn digwydd yn eich cymuned i helpu fel gofodau cynnes neu fanciau bwyd?
  6. Oes unrhyw beth arall yr hoffech chi ei ddweud am sut mae’r argyfwng costau byw yn effeithio arnoch chi?

 

Crynodeb o'r ymatebion i Gwestiwn 6:

·         nid yw cyflogau'n ddigon uchel

·         dim help i bobl sy'n gweithio

·         mae pobl sy'n gweithio wir yn teimlo fel nad oes unrhyw gefnogaeth yna o gwbl a’u bod yn cael eu cosbi am weithio

·         pobl yn dweud mai’r cyfan maen nhw’n wneud yw goroesi - maen nhw’n meddwl am sut i brynu digon o fwyd, sut i gadw'r tai yn ddigon cynnes a dim byd arall o gwbl

·         mae iechyd meddwl yn effeithio ar yr hen a'r ifanc

·         mae plant yn bryderus

·         dirywiad mewn iechyd corfforol. Nid ydynt yn gallu cadw'r tai yn ddigon cynnes na bwyta digon o fwyd da ac mae pobl sy'n gweithio yn dweud fod costau gofal plant yn rhy uchel

·         mae costau popeth arall yn codi, ond dyw eu cyflog nhw ddim wedi codi

·         mae'n ymddangos bod y llywodraeth yn poeni fwy am fusnes mawr a banciau nag amdanyn nhw

Sylw a ddarllenwyd yn uchel: Mae hybiau bwyd a gofodau cynnes, ond dim llawer yn benodol ar gyfer y cymunedau lleiafrifoedd ethnig, yn enwedig y cymunedau lleiafrifoedd ethnig hŷn.

Dywedodd SB fod hwn yn bwynt allweddol, oherwydd wrth feddwl am Gaerdydd hyd yn oed, lle mae hi wedi'i lleoli, mae llawer o ofodau cynnes a hybiau bwyd, ond nid oes unrhyw rai sy'n ddiwylliannol benodol neu sydd â llawer o amrywiaeth ddiwylliannol ynddynt. Oni bai eich bod chi'n mynd i'r rhai yn y mosgiau’n benodol, fe welwch chi ddiffyg amrywiaeth. Ond gyda'r rhai a gaiff eu cynnal o lefydd fel y mosgiau, mae rhai pobl sydd mewn angen yn amharod i’w defnyddio gan fod stigma ynghylch mynd i lefydd lle gallech gael eich adnabod ac mae un o'r sylwadau eraill yn dweud nad ydynt yn defnyddio'r gofodau hyn oherwydd eu bod yn teimlo embaras. Mae pobl angen mwy o amrywiaeth a chynwysoldeb gyda'r gofodau cynnes hyn a'r hybiau bwyd. I roi enghraifft, gan fy mod o gefndir Mwslimaidd, fyddwn i ddim yn gallu cymryd parsel bwyd, petawn i yn y sefyllfa yna o angen, oni bai ei fod yn cynnwys bwyd halal. Felly mae'n rhaid i'r hybiau bwyd a'r gofodau cynnes hyn fod yn ddiwylliannol amrywiol a chynhwysol i bawb.

Cytunodd y Grŵp Trawsbleidiol i rannu'r linc i Arolwg Costau Byw EYST Cymru fydd ar agor tan ddechrau mis Mai.

 

 

Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS - diweddariad ar yr modd y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau lleiafrifoedd ethnig gyda'r argyfwng costau byw hwnnw

Jane Hutt AS: Rwy’n falch iawn o fod gyda chi i gyd. Ac rwyf newydd lwyddo i glywed yr ychydig eirau olaf hynny am effaith ofnadwy yr argyfwng costau byw ar fywydau pobl.

Jane Hutt AS: Does dim rhaid i mi ddweud wrthych fod y bobl leiafrifol ethnig Du ac Asiaidd yn cael eu gorgynrychioli yn y grwpiau incwm isaf, sef y rhai mwyaf agored i niwed gan amlaf o ran cael eu heffeithio waethaf gan yr argyfwng costau byw presennol ac mae'r holl dystiolaeth yn dangos bod yr anghydraddoldebau sy'n bodoli, wir yn dyfnhau o ganlyniad i'r argyfwng costau byw. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n edrych ar hynny o ran beth y gallwn ni ei wneud i gefnogi.

Rwy’n meddwl mai dim ond y ffaith bod hanfodion sylfaenol pobl o ran chwyddiant bwyd ac ynni ar gyfradd mor uchel. Yr hyn rydyn ni'n ceisio’i wneud yw sicrhau bod pawb yn cael y budd-daliadau y mae ganddyn nhw'r hawl iddyn nhw. Mae'n ddiddorol ein bod yn ariannu'r Gronfa Gynghori Sengl, sef yr holl Gyngor ar Bopeth a'u partneriaid ledled Cymru. Y llynedd, mewn giwrionedd, fe wnaethon nhw ganfod bod yr 83 y cant sydd yn defnyddio gwasanaethau’r Gronfa Gynghori Sengl yn perthyn i grŵp o’r boblogaeth sy’n cael eu taro galetaf gan yr argyfwng costau byw, gan gynnwys pobl hŷn, pobl anabl, a phobl o gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Dyma lle mae cynllun gweithredu Cymru Wrth-hiliol mor bwysig ac mae'n dda gweld yr Athro Ogbonna yma, sy'n ein llywio drwyddo, fel petai.

Mae gweithredu'r cynllun hwnnw yn hanfodol bwysig ac mae atebolrwydd fel y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn glir. Mae gennym garreg filltir genedlaethol hirdymor i leihau'r bwlch tlodi rhwng pobl yng Nghymru â nodweddion allweddol a gwarchodedig, ac mae hynny'n cynnwys bylchau cyflog yn ôl rhyw, anabledd ac ethnigrwydd. Ond mae'n rhaid i ni hefyd roi arian i bocedi pobl a dyna lle mae'r arian dros y flwyddyn ddiwethaf, gobeithio, wedi cyrraedd y pocedi. Mae'r taliad costau byw o £150 hefyd rydym wedi rhoi 25 miliwn i awdurdodau lleol i’w defnyddio yn ôl eu disgresiwn, o ran cyrraedd aelwydydd agored i niwed, roeddem yn gallu a gwnaethom weithredu cynllun cymorth tanwydd Llywodraeth Cymru eleni. Cyrhaeddodd gymhwysedd llawer ehangach. Cafodd dros 350,000 o daliadau eu gwneud yn ystod y flwyddyn hon ac rydym wedi diweddaru ein cronfa cymorth dewisol. Rydyn ni wedi codi'r swm y gall pobl ei gael o daliadau argyfwng 11 y cant ac fe wnaethon ni symleiddio'r cynlluniau o ran cymhwysedd.

Un o'r pethau pwysicaf sydd wedi dod yn ystod yr wythnosau diwethaf yw pa mor wirioneddol agored i niwed yw’r bobl sydd ar fesuryddion rhagdalu.  Rwyf wedi bod yn gweithio'n galed iawn i fynd i'r afael â hyn gydag Ofgem a Llywodraeth y DU oherwydd y ffaith ein bod wedi cael y gosodiadau gorfodol hyn o fesuryddion rhagdalu.

Byddai'n ddefnyddiol iawn gwybod a oes unrhyw adborth gan Aelodau yma o ran beth mae hynny wedi’i olygu i bobl y maent yn eu cynrychioli ac yn eu gwasanaethu. Ond mae gennym bartneriaeth gyda'r Sefydliad Banc Tanwydd a bellach yn cael talebau tanwydd allan i bobl ledled Cymru. Mae dros 11,000 o dalebau tanwydd wedi cael eu cyhoeddi a bydd hyn yn parhau i'r flwyddyn ariannol nesaf. Ac mae arian yno i bobl brynu tanwydd oddi ar y grid.

Rwy'n meddwl mai'r peth pwysig ry'n ni wedi bod yn ceisio’i wneud yn y flwyddyn yw helpu pobl i gwrdd â'i gilydd mewn gofodau cynnes. Rydym wedi rhoi £1,000,000 i hyn ar gyfer awdurdodau lleol a llawer o sefydliadau’r trydydd sector. Mae mosgiau, canolfannau cymunedol, capeli, eglwysi wedi dod ynghyd. Nid dim ond darparu mwy o ofodau, cael gafael ar fwyd, cael gwybodaeth am fudd-daliadau, ond hefyd sicrhau bod ganddyn nhw ofod lle maen nhw'n gallu chwalu arwahanrwydd ac unigrwydd, gyda'r cyllid rydyn ni wedi'i roi i mewn i fanciau bwyd a mentrau bwyd ehangach.

Soniodd y Gweinidog am gyfarfod lle mae pob gweinidog, gan gynnwys y Prif Weinidog, yn dod ynghyd â Phartneriaid cymdeithasol, Cynghorau, aelodau o'r bartneriaeth ehangach honno yn ogystal â’r Eglwys yng Nghymru i drafod effaith costau byw a dysgu. O'r cyfarfodydd hynny, mae rhai o'r pethau sy'n cael eu gwneud mewn addysg yn hanfodol bwysig, gan gynnwys cyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb, gan gynnwys brecwast ysgol am ddim a hefyd grant hanfodion yr ysgol o ran prynu gwisg ysgol. Mae yna hefyd y cynnig gofal plant, sy'n estyn i fwy o blant, ond, yn bwysig hefyd, ehangu dechrau’n deg. Felly mae llawer iawn o bethau ry'n ni'n ceisio eu gwneud i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw. Ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod hyn bellach yn cael ei weithredu i gyrraedd y rhai sydd fwyaf agored i niwed ac y mae’r argyfwng yn cael yr effaith fwyaf anghymesur arnynt ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig.

Diolcha John Griffiths AS i'r Gweinidog am sefydlu rhai o bolisïau presennol Llywodraeth Cymru. 

 

 

Sesiwn Holi ac Ateb y Gweinidog

Shun Yiu a Zephyr o Grŵp HongKongers Yng Nghymru: Rydym yn dod o Hong Kong ac wrth wneud cais am fisas Gwladolyn Prydeinig (Tramor), mae’n rhaid i ni dalu bron i £3000 am ein fisas pum mlynedd, ond mae’n union fel taliad dwbl oherwydd pan mae gennym swydd mae dal angen i ni ddidynnu ein cyflog misol i gyfrannu at Yswiriant Gwladol.

Yn ail beth cawn wybod bod gennym hawliau, y gallwn wneud cais am y budd-dal plant ond mae'n ymddangos, ar ôl anfon yr holl ddogfennau cywir i adrannau'r llywodraethau, cawsom ateb nad oes gennym unrhyw fynediad at y gronfa gyhoeddus honno a hefyd ni allwn wneud cais am unrhyw fudd-daliadau plant. Felly mae ychydig fel nad yw'r polisi yn glir ac yna mae'n wastraff arian oherwydd mae'n rhaid i ni anfon y dogfennau.

Roedden ni eisiau gofyn, a oes unrhyw siawns os ydyn ni'n gweithio, y gallwn ni gael ad-daliad neu allwn ni gael rhai o'r budd-daliadau plant?

Esboniwyd bod gwybodaeth groes yn cael ei rhoi, er enghraifft, cael gwybod yn yr ysbyty y gellir gwneud cais am fudd-dal plant i'r newydd-anedig gan i’r plentyn gael ei eni yng Nghymru. Dywedwyd wrthyn nhw (staff yr ysbyty) am ein fisa a dim mynediad at arian cyhoeddus, ond mae'r holl weithwyr proffesiynol yn dweud y dylen ni allu gwneud hynny. Felly dim ond gwneud cais amdano ac o’r diwedd dywed y Swyddfa Gartref wrthym, oherwydd diffyg mynediad i arian cyhoeddus, nad ydym yn gallu cael y budd-dal. Mae'r wybodaeth yma'n eitha' dryslyd i ni achos fe ddywedodd rhywun wrthon ni y gallen ni wneud hynny. Ond ar y llaw arall, dywedodd y llywodraeth wrthon ni na allwn ni. Felly dydyn ni ddim yn gwybod pwy i ymddiried ynddynt. Yn enwedig o ran dogfennau, am fod angen i ni anfon ein dogfennau gwreiddiol, felly er mwyn diogelu'r dogfennau rhag cael eu colli fe wnaethon ni wario bron i £20.00 ar yr holl bost.

Mae'r canlyniad yn eitha' siomedig. Nid ydym yn ceisio gofyn am a chael mynediad i'r cronfeydd cyhoeddus yn uniongyrchol oherwydd nid dyna ein natur na chais am fisa, ond doedden ni ddim yn disgwyl, a doedd neb yn disgwyl i'r rhyfel ddechrau yn Wcráin a hefyd yr argyfwng byw. Mae'n ymddangos fel bod pobl Hong Kong nawr yn cael eu gadael allan yn yr argyfwng byw.

Wrth gwrs, rydym yn diolch o galon am y gronfa argyfwng, ond o ran y gweddill rydyn ni'n gweithio'n galed, rydyn ni'n talu'r trethi ond mae'n ymddangos nad oedd y llywodraeth yn ein hystyried fel rhan o bobl sydd wir angen eu hystyried.

Mae pobl sy'n dod o'r llefydd eraill, maen nhw'n cael eu hystyried yn yr argyfwng costau byw felly maen nhw'n cael rhywfaint o fudd-dal neu ryw help, ond pobl Hong Kong, wnaethon ni ddim gweld llawer ohono. Neu os oes cyllid doedd y wybodaeth gywir ddim gennym ni i gael gafael arno. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn ei brofi.

Ymateb

 Jane Hutt AS: Fel y dywedodd John, rheolau sy'n cael eu gosod gan Lywodraeth y DU yn bennaf yw hyn. Ond byddaf yn cwrdd â Gweinidog Mewnfudo'r DU heddiw a dweud y gwir, ac felly gallaf godi'r materion hyn.  Mae gen i swyddog yma, Stuart Evans, fydd yn cymryd nodyn o'r holl bwyntiau a wnaed ac yna byddwn yn eu codi’n uniongyrchol gyda Gweinidog Llywodraeth y DU.

Y peth allweddol i chi yw beth allwn ni ei wneud i chi yma yng Nghymru oherwydd ein bod ni eisiau eich cefnogi chi. Rydym yn Genedl Noddfa ac rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i'ch cefnogi, er mai cyfraith y DU yn anffodus, yw’r ffaith nad ydych yn gymwys i gael yr arian, yr amodau heb hawl i gyllid cyhoeddus sy'n eich atal rhag cael y budd-dal hwnnw.

 Yng Nghymru, rydym yn dweud wrth awdurdodau lleol ac wrth wasanaethau lleol i sicrhau y gallwch wneud cymaint ag y gallwch o fewn eich pwerau. Ym mis Mehefin 2022 y llynedd, fe wnaethon ni gyhoeddi canllawiau i helpu gwasanaethau lleol i gefnogi'r rhai sydd heb hawl i gyllid cyhoeddus, ac efallai y gallwn ofyn i Stuart eu rhoi nhw yn y sgwrs neu gallwn eu cael nhw atoch chi oherwydd mae'n dangos i chi'r hyn rydyn ni'n ei ddweud. Dyna beth yw dyletswyddau awdurdodau lleol, y math o gymorth y gallan nhw ei ddarparu sy'n cydnabod yr unigolyn cyn gweld eu statws mewnfudo ac mae hynny'n bwysig iawn i ni! Mai'r person ddaw gyntaf ac yna mewnfudo! Felly rydyn ni eisiau i awdurdodau lleol ddarparu cymaint o gefnogaeth ag y gallan nhw, a'r GIG, yn hytrach na'r hyn na allan nhw felly a allwn ni fynd â hynny yn ôl. Dwi'n meddwl, John, mai dyna fyddai fwyaf defnyddiol.

Cynigiodd y Gweinidog gyfarfod gyda grŵp cynrychioliadol Hong Kong i ddeall ymhellach beth yw eu trafferthion er mwyn helpu i lywio trafodaethau gyda llywodraeth y DU a llywodraeth leol.

Jane Hutt AS: Rwy'n cwrdd ag arweinwyr llywodraeth leol yn rheolaidd ynghylch sut rydyn ni'n cefnogi ffoaduriaid Wcrain, gwesteion a ffoaduriaid eraill sy'n dod i Gymru. Fe âf â hynny yn ôl, John, os ydy hynny o gymorth.

John Griffiths AS: Diolch yn fawr iawn, Jane. Ac rwy'n credu y byddai hynny'n fan cychwyn defnyddiol iawn i edrych, efallai, ar sut y gellid mynd i'r afael â'r materion hyn.

Trudy Aspinwall, gwasanaeth eiriolaeth prosiect Travelling Ahead sy'n gweithio gyda chymunedau Sipsi, Roma a Theithwyr: Roeddwn i eisiau codi'r materion o ran yr argyfwng costau byw a'i effaith ar gymunedau Sipsiwn a Theithwyr, yn enwedig pobl nad ydynt yn byw mewn tai brics a mortar confensiynol, fel y gwn yr ydych yn ymwybodol. Mae rhwystrau sylweddol o hyd i bobl sy'n byw ar safleoedd ac mewn sefyllfaoedd teithio nomadaidd o ran cael gafael ar y ryddhad ynni sydd ar gael gan Lywodraeth y DU. Dyw pobl sydd ddim wedi cael cyflenwr uniongyrchol oherwydd bod y Cyngor yn cyflenwi'r ynni ar eu safleoedd ddim wedi cael, tan fis Chwefror, unrhyw ran o'r £400 y bydd aelwydydd eraill wedi gallu ei gael. Mae'r grant amgen newydd ar agor nawr, ond mae’n dal heb fod yn syml i bawb. Ac yn aml mae angen cefnogaeth sylweddol ar bobl i wneud y cais hwnnw. Mae yna hefyd y taliad tanwydd amgen o £200, y mae llawer o bobl yn ei dderbyn yn awtomatig os oes ganddynt hawl, ond mae grwpiau sylweddol o sipsiwn a theithwyr wedi eu cloi allan o hynny yn llwyr oherwydd nad oes ganddynt gyfeiriad sefydlog, a hyd yn oed i'r rhai sydd, mae rhwystrau sylweddol o ran darparu tystiolaeth o dderbynebion a phethau felly, pe baech yn ei dderbyn yn awtomatig, doedd dim rhaid i chi eu cael. Felly ry'n ni'n gweld, a dweud y gwir, nad yw addewid llywodraeth y DU o ynni ddim yn dal dŵr o ran rhai grwpiau.

Fy nghwestiwn i Lywodraeth Cymru yw a ydych yn cynrychioli'r materion hynny i Lywodraeth y DU ac a ydych chi'n gallu gwneud hynny oherwydd rydyn ni'n wirioneddol bryderus bod yna deuluoedd sy'n colli allan yn llwyr hyd yn oed ar y gefnogaeth gyffredinol sydd i fod ar gael.

Roeddwn i hefyd eisiau edrych ar y gronfa costau byw o 25 miliwn y buoch chi'n sôn amdano aeth i awdurdodau lleol. Gwn am 1 awdurdod lleol sydd wedi defnyddio peth o'r arian yna yn benodol er mwyn cefnogi eu trigolion Sipsiwn a Theithwyr yn ystod y gaeaf ond hwn yw'r unig awdurdod lleol  rwy’n ymwybodol ohono wnaeth hynny ac rwy'n pryderu'n fawr fod yna fwlch go iawn yn parhau lle nad yw anghenion Sipsiwn a Theithwyr o reidrwydd yn cael eu cydnabod gan awdurdodau lleol ac wedyn ddim yn cael peth o’r adnoddau hyn.

Bydd y cap ar brisiau ar gyfer cyfraddau masnachol yn cael ei ostwng ym mis Ebrill ac mae cynghorau'n poeni'n fawr fod y rhai sy'n rhoi cyflenwad ynni uniongyrchol i drigolion eu hawdurdod lleol, eu bod yn edrych ar roi costau dwbl i bobl sy'n byw ar safleoedd ar ôl mis Ebrill. Hoffem siarad â Llywodraeth Cymru am y ddau i wneud yn siŵr bod materion y DU yn cael eu cyflwyno, ond hefyd yr hyn y gallwn ei wneud o fewn Cymru i liniaru'r effaith anghymesur hon o ddifrif.

Ymateb
Jane Hutt AS: Rwy'n falch iawn eich bod wedi codi'r materion hyn ynghylch cael gafael ar ryddhad ynni, roedd yn hawl y dylai ein pobl a’n cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr fod wedi gallu cael gafael arno. Felly, byddaf yn codi'r rhain yn benodol, gyda Llywodraeth y DU a darparwyr ynni. Byddwn i'n arbennig o awyddus i edrych ar beth mae ein hawdurdodau lleol yn ei wneud.

 Awgrymodd y Gweinidog drafod hyn ymhellach gyda Trudy mewn cyfarfod a drefnir o flaen llaw.

Jane Hutt AS: Rwy'n edrych ar yr holl faterion hyn yn ymwneud ag adroddiad pwysig iawn a wnaeth John, yn eich rôl fel cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar Sipsiwn, Roma, Teithwyr ac anghenion. Anghenion tai, yn enwedig yn ymwneud â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae Stuart Evans yma yn y cyfarfod hwn ac mae'n chwarae rhan fawr yn hyn, fel dirprwy Gyfarwyddwr sy'n gyfrifol am y maes polisi hwn a byddaf yn codi hyn gydag awdurdodau lleol. Mae ganddyn nhw ddisgresiwn ond mae ganddyn nhw ddyletswyddau hefyd. Nid disgresiwn o ran y 25 miliwn yn unig a roddwyd gennym ar gyfer costau byw.

Gofynna’r Gweinidog i swyddogion roi'r datganiad ysgrifenedig a wnaeth am y Gronfa Cymorth Dewisol, ychydig wythnosau yn ôl, yn y sgwrs er mwyn sicrhau bod pobl yn ei weld.

Jane Hutt AS: Rydym wedi codi gwerth y taliadau 11 y cant yn unol â chwyddiant ac wedi symleiddio'r cynllun ond hefyd y Sefydliad Banc Tanwydd sy'n gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys awdurdodau lleol a banciau bwyd i roi nid yn unig dalebau tanwydd ar gyfer mesuryddion rhagdalu, ond hefyd daliadau oddi ar y grid. Gall y Gronfa Cymorth Dewisol ddarparu'r grantiau a'r taliadau hynny hefyd.

Diolcha John Griffiths i'r Gweinidog am fod yn bresennol. Gadawa’r Gweinidog y Cyfarfod.

Dyweda John Griffiths AS fod digwyddiadau wedi cael eu cynnal, sydd wedi cynnwys cyfieithwyr, i roi gwybod i bobl pa gymorth sydd ar gael iddynt. Atgoffodd JG y rhai a oedd yn bresennol y gall pob un ohonom chwarae rhan wrth geisio sicrhau bod pobl yn cael gwybod pa gymorth sydd ar gael a sut i wneud cais, mae angen i ni i gyd barhau i weithio arno mewn gwirionedd gan ei fod yn rhwystredig iawn nad yw pobl yn aml iawn yn cael yr help y mae ganddynt yr hawl iddo.

Dywed Trudy Aspinwall nad oes synnwyr pendant ynglŷn â phryd y gallai'r gweithredoedd o fewn y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ddigwydd, pwy fydd yn eu gwneud a dim cyfathrebu ehangach gyda chymunedau am hynny, am gynlluniau ar eu cyfer. Sesiwn yn y dyfodol i'r Grŵp Trawsbleidiol yn benodol ar gynnydd Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol? Mae'r cynllun yn hir felly gallai fod yn fwy buddiol dewis adran, fel Cartrefi a Lleoedd, neu Gyflogaeth, neu'r Adran Iechyd.

John Griffiths AS: Rydym yn chwilio am bynciau ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol fel rhan o agenda heddiw. Cytunir y gallai cynnydd y Cynllun Gweithredu gael ei drafod yng nghyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol. Agorir i’r rhai sy’n bresennol sy'n cytuno. Bydd John ac EYST yn dod at ei gilydd i drafod yr agweddau ymarferol ac adrannau sydd i'w trafod gan y bydd yn ormod i gwmpasu holl feysydd y Cynllun Gweithredu.

Robert Moore: Rydym wedi siarad llawer am ddarparu cymorth gyda chostau ynni a gofodau cynnes ac ati, ond yn y tymor canolig a'r tymor hwy, mae gennym broblem wahanol. Os edrychwch chi ar yr ystadegau ar gyfer yr Haf diwethaf, roedd nifer trawiadol o farwolaethau ychwanegol oherwydd gwres. Yn y dyfodol agos iawn, bydd angen gofodau oer i bobl gadw’n oer yn yr haf, yn enwedig i bobl mewn amodau tai nad ydynt yn ddigonol. Ac os ddim, fe welwn nifer cynyddol o farwolaethau oherwydd gwres yn yr haf. Nid wyf yn meddwl bod hynny ar agenda neb ar hyn o bryd.

 

Cau

Diolcha John Griffiths, AS i bawb am eu presenoldeb, gan ddweud ei fod wedi bod yn gyfarfod defnyddiol, yn dda i gael pobl at ei gilydd a rhwydweithio i wneud cynnydd. Daw John â’r cyfarfod i ben.